Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi annog y pleidiau eraill i wneud tro pedol a gwrthod cynlluniau i gymeradwyo codiad cyflog o £10,000 i Aelodau’r Cynulliad.
Fe fydd pleidlais yn y Cynulliad heddiw ar Gyllideb Comisiwn y Cynulliad a allai gynyddu o £1.1 miliwn.
Un o ddibenion cynyddu’r gyllideb yw i dalu’r gost o roi codiad cyflog i Aelodau’r Cynulliad.
Fe allai’r bleidlais arwain at roi codiad cyflog o £10,000 – o £54,000 i £64,000 – i holl aelodau’r Cynulliad fis Mai’r flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl i’r codiad cyflog o 18% gostio £700,000 yn fwy i drethdalwyr bob blwyddyn.
Ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn debygol y bydd yr un o’r pleidiau eraill ac eithrio’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.
‘Annerbyniol’
Mewn datganiad, dywedodd Kirsty Williams: “Mae codiad cyflog o £10,000 yn gwbl annerbyniol a dyna pam y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon.
“Dyma ein cyfle i anfon neges glir at y Bwrdd Tâl newydd ein bod ni’n gwrthwynebu’r codiad cyflog o 18%.
“Mae hawl gan y Bwrdd Tâl wneud mwy nag un cynnig o dan ‘amgylchiadau eithriadol’. Rydym yn credu y byddai ACau yn gwrthod cyllideb y Comisiwn, yn wir, yn un o’r amgylchiadau eithriadol.
“Mae’n warthus, ar adeg pan fo gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael rhewi eu cyflogau neu eu codi ychydig, y gallai gwleidyddion fod yn derbyn codiad cyflog o 18%.
“Unwaith eto, rwy’n annog y pleidiau eraill yn y Cynulliad i bleidleisio yn erbyn cyllideb y Comisiwn.”