Gwlad yr Iorddonen
Mae swyddog yr heddlu o Wlad yr Iorddonen wedi saethu dau Americanwr yn farw mewn safle hyfforddi yn Amman, cyn lladd ei hun, yn ôl adroddiadau.

Mae’r safle yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi lluoedd diogelwch Irac a Phalestina, yn Muagar, sydd ar gyrion y brifddinas Amman.

Mae adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau, bod o leiaf tri swyddog arall wedi cael eu hanafu.

Mae Gwlad yr Iorddonen yn rhan o’r ymdrech, sy’n cael ei arwain gan yr Unol Daleithiau, i drechu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ac Irac.

Mae’r wlad yn safle ar gyfer cannoedd o hyfforddwyr o’r Unol Daleithiau sy’n rhan o raglen filwrol i hybu diogelwch y deyrnas, sy’n ffinio Syria ac Irac.

Ond mae rôl y deyrnas yn y rhyfel yn erbyn IS wedi achosi pryder yng Ngwlad yr Iorddonen gyda rhai yn poeni y gall arwain at ymosodiadau yn eu gwlad.