Ysgol Sul yng gŵyl Sŵn
Ar benwythnos digon diflas ym mis Tachwedd, roedd gŵyl Sŵn nôl am ei hwythfed tro yn y brifddinas, lle daeth dros 120 o wahanol artistiaid ynghyd i swyno cynulleidfaoedd mewn amryw o leoliadau wedi’u dotio ar hyd canol Caerdydd.
Gŵyl a gafodd ei sefydlu gan Huw Stephens a John Rostron yw Sŵn, a oedd eisiau creu gŵyl oedd yn ‘cyfuno lleoliadau a hyrwyddwyr addawol â sin gerddoriaeth leol ffyniannus’ yng Nghaerdydd ar ôl gweld gŵyl SXSW yn Tecsas.
Dyma fy nhro cyntaf yn yr ŵyl, ac yng nghanol yr holl ‘hipsters’ ifanc a’r hen lawiau oedd wedi bod yn dod am flynyddoedd, dyma fentro o un lleoliad i’r llall i weld bandiau a cherddorion doeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen.
Dyna yw Sŵn yn ei hanfod wrth gwrs, gŵyl lle fyddai’n anodd iawn honni eich bod chi’n nabod unrhyw un o’r bandiau (heblaw eich bod yn selog mewn gigiau Cymraeg ac yn nabod y cnewyllyn o fandiau’r SRG oedd yn chwarae yno.)
Llwyfan i fandiau ifanc
Ond dyna yw pwynt yr ŵyl, mae’n rhoi llwyfan gwahanol i fandiau ifanc – rhai o Gymru a thu hwnt, ac yn rhoi cyfle i ni fel cynulleidfa i ddod o hyd i dalentau gwahanol sydd fel arall yn cael eu hanwybyddu gan ddiwydiant cerddoriaeth poblogaidd.
A do, fe welais i sawl band doeddwn ni ddim yn or-hoff ohonyn nhw ond hefyd fe ddes i ar draws sawl un arall oedd yn hollol wych, gan gynnwys Hooton Tennis Club o Lerpwl, Honey Moon o Lundain a Peaness o Gaer.
Roedd arlwy o fandiau o Gymru hefyd wrth gwrs, fel Mellt, yr Eira, HMS Morris, Ysgol Sul a Breichiau Hir. Mi oedd yn benwythnos da i ddod o hyd i gerddoriaeth newydd a gwerthfawrogi ein sin gerddoriaeth ni yma yng Nghymru, gan ymfalchïo ei bod hi llawn cystal (os nad yn well) na bandiau eraill o gwmpas y byd.
Ysgol Sul yn ‘lledaenu eu brand’
Un band amlwg iawn ar y sin hwnnw erbyn hyn yw Ysgol Sul, ac mae tri aelod y grŵp, Cian, Iolo a Llew i gyd yn dod o ardal Caerfyrddin.
Yn ôl y band, roedd hi’n dda gweld ‘nifer o ffrindiau yn troi lan’ i’w gweld nhw’n chwarae ond bod Sŵn hefyd yn gyfle i weld ‘wynebau newydd yn y gynulleidfa’.
“Mae’n rhywbeth neis ac iachus (i chwarae i gynulleidfa newydd), fel arfer, ar y cyfan (mae ein gigs ni) yn llawn wynebau cyfarwydd, sydd eisoes wedi clywed y gerddoriaeth, so ma fe’n dda ein bod ni’n gallu lledaenu’r band fel petai,” meddai Iolo Jones, prif leisydd a gitarydd y band.
“Mae cynnydd yn nifer y bobl sy’n ddi-Gymraeg yn dod i’n gigs dinesig ni, sy’n beth da, achos dim band i siaradwyr Cymraeg yn unig ydan ni.”
Sicrhau nad yw bandiau Cymraeg yn cael eu hanghofio
Felly a yw hi’n bwysig gweld gwyliau fel hyn yng Nghymru? Lle mae bandiau Cymraeg a bandiau di-Gymraeg yn dod at ei gilydd ac yn cyfuno dau ddiwylliant â’i gilydd i gynulleidfa o bob rhan o’r byd?
Mae’n gwestiwn sy’n hollti barn ond dwi’n meddwl bod ‘na le i’r math hon o ŵyl yng Nghymru yn sicr, mae angen digwyddiadau byw fel hyn sy’n cyfuno’r ddau ddiwylliant ac sy’n gwella dealltwriaeth y naill o’r llall.
Y peth pwysicaf (ac anoddaf) am wn i yw sicrhau nad yw’r elfen ‘di-Gymraeg’ ar draul yr elfen Gymraeg, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n rhaid cofio wrth i Sŵn barhau i dyfu.
Ond ar benwythnos digon diflas ym mis Tachwedd, roedd presenoldeb Sŵn yn chwa o awyr iach, gan wneud i mi deimlo’n gyffrous am ddyfodol ein cerddoriaeth ni yma yng Nghymru.
Stori: Mared Ifan