Arlywydd Tayyip Erdogan
Mae plaid dros gyfiawnder a datblygiad (AKP) wedi ennill y mwyafrif o bleidleisiau mewn etholiadau seneddol yn Nhwrci ddoe.
Fe ganmolodd yr Arlywydd Tayyip Erdogan y canlyniad, gan ddweud fod y bobol “wedi pleidleisio dros sefydlogrwydd.”
Fe lwyddodd y blaid i adennill eu mwyafrif seneddol, a hynny bum mis wedi iddyn nhw golli’r mwyafrif yn etholiad Mehefin eleni.
Fe ddadleuodd yr Arlywydd a’r Prif Weinidog, Ahmet Davutoglu, mai “dim ond senedd un blaid a allai adennill sefydlogrwydd” i’r wlad.
Mae Tayyip Erdogan wedi galw am gydnabyddiaeth y byd i’r orchest hon.
Cafodd y pleidleisiau eu cyfrif yn gynnar fore Llun, gyda’r canlyniadau’n dangos bod yr AKP wedi ennill mwy na 49% o’r pleidleisiau,
Digwyddiadau cythryblus
Fe ddywedodd Tayyip Erdogan fod y digwyddiadau cythryblus diweddar yn Nhwrci wedi achosi i bobol bleidleisio dros sefydlogrwydd.
Yn ddiweddar, mae cannoedd o bobol wedi colli eu bywydau yn Nhwrci yn sgil yr ymladd rhwng lluoedd y llywodraeth a gwrthryfelwyr Cwrdaidd, ynghyd ag achosion o ffrwydradau hunan-fomio.
Serch hynny, fe welwyd ymchwydd yng nghyfradd y lira a’r mynegai stoc y bore yma wrth i fuddsoddwyr ddathlu fod y cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol yn dirwyn i ben.
Yn gwrthwynebu’r AKP roedd plaid genedlaethol a phlaid Cwrdaidd arall.
Fe ddywedodd comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd y byddai’r grŵp o 28 o genhedloedd yn gweithio â’r Llywodraeth newydd i gryfhau eu cysylltiadau.