Safle'r ddamwain awyren yn yr Aifft
Yn ôl uwch swyddog gyda chwmni awyrennau o Rwsia, “dim ond ymyrraeth allanol” allai fod wedi achosi’r ddamwain awyren yn yr Aifft, gan ladd 224 o bobl.

Dywedodd Alexander Smirnov, dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol Metrojet, na allai nam technegol na chamgymeriad ar ran y peilot fod wedi achosi’r Airbus A320-200 i dorri’n ddarnau yn yr awyr.

Fe wrthododd Alexander Smirnov drafod rhagor o fanylion oherwydd bod yr ymchwiliad yn parhau ond dywedodd nad oedd y criw wedi anfon neges frys ac nid oedan nhw wedi cysylltu â rheolwyr traffig awyr cyn y ddamwain.

Roedd yr awyren Metrojet Airbus A321-200 wedi taro’r ddaear yn Sinai 23 munud ar ôl gadael Sharm el-Sheikh yn yr Aifft ar ei ffordd i St Petersburg, gan ladd pob un o’r 224 o deithwyr arni, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Rwsia.

Mae cyrff 144 o’r bobl gafodd eu lladd wedi cael eu cludo yn ôl i Rwsia y bore ‘ma.

Dywedodd Alexander Smirnov fod yr awyren wedi colli cyflymder yn sydyn cyn iddi daro’r ddaear ddydd Sadwrn.

Mae arbenigwyr a thimau achub o Rwsia a’r Aifft yn parhau i chwilio’r safle am ragor o gyrff a gweddillion yr awyren.

Mae blychau du’r awyren wedi cael eu darganfod ar y safle ac yn ôl swyddogion maen nhw mewn cyflwr da.

Mae aelod o’r grwp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi honni mai nhw oedd yn gyfrifol am saethu’r awyren i’r llawr ond nid oes cadarnhad o hynny ar hyn o bryd.