Mae awyren o Rwsia, yn cario 217 o deithwyr a saith aelod o griw, wedi disgyn i’r ddaear yn ardal penrhyn Siai yn yr Aifft.

Fe ddaeth timau chwilio ac achub o hyd i garcas yr awyren yn ardal Hassana, i’r de o ddinas el-Arish, lle mae lluoedd diogelwch yr Aifft yn ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Islamaidd.

Fe gododd yr awyren o faes awyr Sharm el-Sheikh, cyrchfan boblogaidd gyda thwristaidd o Rwsia, gan ddiflannu oddi ar sgriniau radar rhyw 23 munud i mewn i’r daith. Roedd yr awyren yn anelu am ddinas St Petersburg yn Rwsia.