Mae 17 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn bar karaoke ar ynys Sulawesi oddi ar Indonesia.

Cafodd 71 o bobol driniaeth am effeithiau mŵg yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 1 o’r gloch y bore yn yr adeilad tri llawr.

Cymerodd hi rai oriau i ddiffoddwyr tân reoli’r fflamau.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth oedd wedi achosi’r tân, ond mae ymchwiliad cychwynnol wedi awgrymu mai nam trydanol oedd yn gyfrifol.

Roedd nifer o bobol, yn eu hofn, wedi torri ffenestri cyn ffoi i’r stryd, tra bod eraill yn sownd yn yr adeilad gan mai un drws yn unig oedd ar agor.

Trigolion o Indonesia oedd pob un o’r 17 fu farw.