Fe fydd bwyty Americanaidd newydd yn creu 35 o swyddi yng Nghaerdydd.

Bydd bwyty Five Guys yn agor ym Mae Caerdydd ar Ragfyr 14.

Hwn fydd trydydd bwyty’r cwmni yng Nghymru, a’u hail yng Nghaerdydd.

Agorodd eu canolfan gyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mawrth, ac mae eu hadeilad yn Abertawe’n agor yr wythnos hon.

Bydd y bwyty newydd yng Nghaerdydd yn agor yng Nghanolfan Red Dragon.