Does dim perygl i aelodau cymhedrol y Blaid Lafur o du aelodau mwy asgell chwith, yn ôl canghellor yr wrthblaid, John McDonnell.
Ond dywed McDonnell fod rhaid iddyn nhw ddygymod â chyfeiriad newydd y blaid yn dilyn ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd.
Roedd honiadau y gallai gwrthwynebwyr y drefn newydd oddi mewn i’r blaid wynebu gael eu disodli gan aelodau mwy radical.
Roedd adroddiadau bod yr Aelod Seneddol Llafur Simon Danczuk yn barod i alw am etholiad i ethol arweinydd newydd pe bai’r blaid yn perfformio’n wael yn yr etholiadau ym mis Mai.
Mae McDonnell wedi wfftio’r adroddiadau hynny.
Dywedodd McDonnell wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Rydyn ni’n gwrthwynebu unrhyw fygythiad i ASau unigol. Dydyn ni ddim o blaid ail-ddewis.
“Bydd y prosesau democrataidd o fewn Llafur yn digwydd yn y modd arferol.
“Does dim amheuaeth y byddwn ni’n galluogi ASau i gael eu dad-ddewis yn y modd hwnnw. Byddwn yn cydweithio ar hyn.”
Awgrymodd Simon Danczuk wrth nifer o bapurau newydd ei fod yn barod i wneud y gwaith caib a rhaw er mwyn rhoi cyfle i aelodau blaenllaw’r blaid megis Chuka Umunna, Dan Jarvis ac Emma Reynolds i herio Corbyn am yr arweinyddiaeth.
Yn y Mail on Sunday, cyhuddodd Danczuk Corbyn o “ddiffyg sylweddol o ran ei grebwyll” ac o naifrwydd.
Ychwanegodd nad yw’n addas i arwain plaid wleidyddol.
O dan y rheolau presennol, rhaid i aelod seneddol sicrhau cefnogaeth 20% o’i gydweithwyr – 46 allan o 231 – er mwyn galw am ethol arweinydd newydd.