Mae’r heddlu ym Mhacistan am geisio arestio dau Gristion yn Lahore yn dilyn adroddiadau eu bod nhw wedi sarhau’r proffwyd Mohammed a’r Koran.

Fe ddaw ar ôl i ddyn lleol gwyno wrth yr heddlu am ddigwyddiad honedig.

Mae ymchwiliad ar y gweill ond does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.

Gall unrhyw un sy’n sarhau Mwslimiaid neu’r ffydd Islamaidd ym Mhacistan gael eu dedfrydu i farwolaeth – cosb sy’n aml yn achosi terfysgoedd yn y wlad er nad oes yna’r un person wedi wynebu’r gosb eithaf am y drosedd honno.

Yn ôl grwpiau hawliau dynol, mae’r bygythiad o’r gosb eithaf yn cael ei ddefnyddio er mwyn bygwth lleiafrifoedd.

Yn 2011, cafodd llywodraethwr yn y Punjab ei ladd gan ei swyddog diogelwch ei hun ar ôl iddo amddiffyn Cristion oedd wedi’i chyhuddo o sarhau Islam – cafwyd y ddynes yn ddieuog ar ôl treulio wyth mlynedd yn aros am y gosb eithaf.

Bu’n rhaid i’r ddynes adael y wlad a symud i Ganada ar ôl cael ei bygwth droeon.