Mae gwyddonwyr yn ymchwilio i amrywiolyn newydd o Covid-19 yng Nghymru.

Mae ymchwilwyr yn dweud y gallai’r ffordd mae’n ymddwyn fod yn debyg i’r amrywiolyn o Dde Affrica.

Hyd yma, mae dau achos wedi’u cadarnhau yng Nghymru, tra bod 36 wedi’u darganfod yn Lloegr.

Un o’r newidiadau yn yr amrywiolyn yw mwtaniad o’r enw E484K – sydd i’w gael hefyd yn amrywiolion Brasil a De Affrica.

Gallai helpu’r firws i osgoi rhai o amddiffynfeydd system imiwnedd y corff.

Mae newidiadau eraill yn ei gwneud yn debyg i ‘amrywiolyn Caint’ y Deyrnas Unedig, ac mae arbenigwyr yn dweud ei fod yn fwy heintus na’r fersiwn gwreiddiol o coronafeirws a ddechreuodd y pandemig.

Y pryder yw fod y feirws yn newid mewn ffyrdd a allai adael iddo ledaenu a dianc yn hawdd o’r brechlynnau sydd eisoes ar gael i ymladd yn erbyn Covid-19.

Cafodd y brechlynnau presennol eu cynllunio o amgylch fersiynau cynharach o’r coronafeirws, ond mae gwyddonwyr yn credu y dylen nhw barhau i weithio yn erbyn yr amrywiolion newydd sy’n cael eu gweld nawr, er efallai na fyddan nhw gystal.

Eisoes, mae gwyddonwyr yn gweithio ar frechlynnau newydd sy’n cyfateb yn well i amrywiolion newydd, rhag ofn y bydd eu hangen cyn y gaeaf nesaf.