Mae plismones sy’n gweithio i Heddlu’r De yn wynebu gwrandawiad disgyblu ar ôl iddi dorri cyfyngiadau’r coronafeirws drwy fynd i barti teuluol, gyrru adref dan ddylanwad alcohol a tharo i mewn i adeilad.
Doedd y Cwnstabl Tasia Stephens, 24, ddim yn gweithio ar Ebrill 25 y llynedd pan ddigwyddodd y gyfres o ddigwyddiadau.
Bydd hi’n wynebu cyhuddiadau ei bod hi wedi torri cyfyngiadau’r cyfnod clo, wedi gyrru adref pan nad oedd hi mewn cyflwr addas i wneud hynny a’i bod hi felly yn euog o gamymddwyn sy’n tarfu ar ei henw da.
Mae lle i gredu bod y cyfan wedi digwydd y diwrnod ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi cynllun y cyfnod clo cyntaf.
Mae hi eisoes wedi wynebu cyhuddiad mewn llys barn o yrru dan ddylanwad alcohol.
Pe bai’r gwrandawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ddydd Llun (Chwefror 22) yn ei chael hi’n euog, gallai hi gael ei diswyddo.