Fe fydd mwy o bobol yn gallu derbyn taliadau hunanynysu o £500 ar ôl i Lywodraeth Cymru ymestyn y cynllun er mwyn helpu rhagor o bobol yn sgil Covid-19.

Mae Julie James, yr Ysgrifennydd Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi bod y cynllun yn cael ei ymestyn tan fis Mehefin eleni.

Bydd hawl gan bobol sy’n derbyn llai na £500 yr wythnos a’r rhai sy’n derbyn tâl salwch statudol ac sydd wedi cael cais gan y system profi ac olrhain, ap y Gwasanaeth Iechyd neu leoliad addysg eu plentyn i hunanynysu wneud cais am gymorth.

Wrth ymestyn y cynllun, fe fydd oddeutu 170,000 yn rhagor o bobol gallu derbyn cymorth pe baen nhw’n colli incwm wrth orfod hunanynysu.

Bwriad y cynllun yw helpu’r rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal arall, y rhai sy’n methu gweithio o’u cartrefi neu’r rhai sy’n rhieni neu’n ofalwyr plant sy’n methu gweithio am eu bod nhw wedi cael cais i hunanynysu.

Mae elfen o ddisgresiwn yn golygu bod modd i bobol nad ydyn nhw’n derbyn budd-dal ond sydd yn dal ar eu colled i gael cymorth.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai’r cynllun gael ei ymestyn ymhellach tan fis Hydref pe bai angen.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae hunanynysu yn allweddol os ydym am roi stop ar ledaeniad y coronafeirws, a thra bo rhaglenni profi cymunedol yn yr arfaeth dros y misoedd nesaf mae’n hanfodol ein bod yn estyn y cynllun hwn i helpu rhagor o bobl i hunanynysu a chael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt,” meddai Julie James, Ysgrifenydd Tai a Llywodraeth Leol Cymru.

“Rwyf eisiau diolch eto i bob awdurdod lleol yng Nghymru am eu cefnogaeth ddiflino yn cyflwyno’r cynllun hwn.

“Mae adborth ganddynt yn dweud bod y cynllun yn gweithio yn dda a bron i 8.500 o daliadau wedi eu gwneud. Er hynny, rydym yn gwybod bod diffyg incwm yn rhwystr i bobl rhag hunanynysu.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddiogelu iechyd a lles pobl, a byddwn yn parhau i a helpu pobl Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn drwy sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i’r rheini sydd ei angen.”

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Rydym yn croesawu’r estyniad i’r Cynllun Cymorth Hunanynysu, a fydd yn helpu unrhyw un sy’n wynebu gorfod dewis rhwng aros gartref a methu â bwydo’r teulu neu fynd i’r gwaith ac efallai ledaenu’r coronafeirws,” meddai Anthony Hunt, llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Ni ddylai neb orfod gwneud penderfyniad o’r fath. Bydd ymestyn y cynllun hwn yn golygu gallu parhau i helpu pawb i wneud eu rhan yn y frwydr yn erbyn y pandemig hwn.”