Mae dau aelod o’r Llu Awyr ymhlith pump o bobl gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bu farw’r ddau ar ôl i’w hofrennydd Puma Mk2 fynd i drafferthion wrth lanio ym mhencadlys hyfforddiant Nato yn Kabul, prifddinas Afghanistan.
Cafodd pump o bobl eraill hefyd eu hanafu yn y ddamwain bnawn dydd Sul.
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi mynnu mai “damwain” oedd y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd: “Mae ymchwiliad ar y gweill i’r digwyddiad ond fe allwn gadarnhau mai damwain oedd y digwyddiad ac nid o ganlyniad i weithredoedd gwrthryfelwyr.
“Mae teuluoedd y ddau aelod o staff gafodd eu lladd wedi cael eu hysbysu ac wedi gofyn am oedi cyn ein bod yn cyhoeddi eu henwau.”
Roedd y ddau aelod yn gweithio yn safle’r Llu Awyr yn RAF Benson, rhwng Rhydychen a Reading. Nid oes unrhyw fanylion eraill wedi cael eu rhyddhau hyd yn hyn.
Mae pencadlys Nato, Resolute Support, yn Kabul, yn rhan o ymgyrch i roi hyfforddiant a chymorth i luoedd diogelwch a sefydliadau yn Afghanistan.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod tua 500 o filwyr o Brydain yn parhau yn Afghanistan fel rhan o’r ymgyrch.
Roedd y pump o bobl gafodd eu lladd yn y ddamwain yn aelodau o staff Resolute Support.