Mae llu awyr Irac yn honni ei bod wedi taro confoi yn cario Abu Bakr al-Baghdadi, arweinydd mudiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud fod “llu awyr Irac wedi cynnal ymgyrch arwrol gan dargedu confoi y terfysgwr Abu Bakr al-Baghdadi” wrth iddo yntau wneud ei ffordd i gyfarfod yn nhre’ Karablah yn nhalaith gorllewinol Anbar.

Mae’r datganiad yn dweud wedyn nad oes neb yn siwr beth yw hynt a helynt Abu Bakr al-Baghdadi wedi’r ymosodiad, na lle mae o nawr.

Mae Irac wedi honni taro’r arweinydd yn y gorffennol.