Mae’r heddlu’n holi dau ddyn wedi i fyfyriwr gael ei ladd, ac i berson arall gael ei anafu, mewn achos o saethu ar stad dai myfyrwyr mewn coleg yn talaith Tecsas.

Fe ddigwyddodd y saethu tua 11.30yb ddydd Gwener, ar gampws Houston ac ym maes parcio fflatiau ‘Courtyard Apartments’ y brifysgol. Fe gafodd myfyrwyr a darlithwyr gyfarwyddyd i aros dan do nes fod yr heddlu wedi cael y sefyllfa dan reolaeth, a bod dau ddyn wedi’u harestio.

“Fel dywedodd yr Arlywydd Obama, mae pethau fel hyn yn digwydd yn rhy aml,” meddai llywydd coleg Texas Southern, John Rudley.

“Glasfyfyriwr oedd y stiwdant gafodd ei ladd,” meddai wedyn, “ac mae’r ail ddioddefwr, a gafodd ei saethu ddwywaith, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.”