Mae’r heddlu’n bryderus am wraig o Loegr y credir ei bod yn treulio cyfnod yn crwydro yn Yr Alban.

Fe adawodd Katie Grout, 23, o Berwick yn Northumberland, ei chartre’ am 7 o’r gloch fore Iau, a hynny mewn car Vauxhall Corsa lliw arian, rhif DY61 HJJ.

Ond, er i’r car gael ei weld mewn garej ar draffordd yr M8, fe dderbyniodd yr heddlu alwad yn dweud ei bod ar goll.  Y gred oedd ei bod hi’n anelu am ddinas Glasgow, ond fe allai fod wedi mynd i gyfeiriad arall yn Yr Alban.

Mae datganiad gan yr heddlu’n ei disgrifio fel dynes 23 oed groenwyn, yn 5 troedfedd 5 modfedd o daldra, o gorffolaeth fain, gyda gwallt brown at ei hysgwyddau, a chraith fechan o dan ei gên.

Fore Iau, roedd hi’n gwisgo trowsus sgwarog du a gwyn, a thop du gyda llewys hir. Roedd bwts lliw llwyd am ei thraed.