Mae Donald Trump wedi cyhuddo’r Democratiaid o “geisio dwyn yr etholiad” wrth i ras arlywyddol yr Unol Daleithiau boethi.

Mae’r arlywydd Gweriniaethol a’i wrthwynebydd Democrataidd Joe Biden ill dau yn dweud eu bod nhw’n hyderus o ennill y ras am y Tŷ Gwyn.

Dywedodd Donald Trump iddo gael “buddugoliaeth fawr”, ond mae Joe Biden yn mynnu ei fod e’n “dal ar drywydd” y fuddugoliaeth.

Cael a chael

Roedd yna fuddugoliaethau mawr i’r arlywydd, serch hynny, yn nhaleithiau allweddol Tecsas, Fflorida ac Ohio.

Mae Joe Biden wedi ennill yn Arizona, un arall o’r taleithiau allweddol.

O’r llwyfan yn nhalaith Delaware, lle mae’r cyn-Ddirprwy Arlywydd yn byw, dywedodd yr ymgeisydd Democrataidd fod ei dîm “yn teimlo’n dda am le’r ydyn ni”.

Maen nhw’n gobeithio cipio taleithiau Wisconsin, Michigan a Pennsylvania.

Mae disgwyl y gallai’r cyfri gymryd rai diwrnodau eto, sy’n rhywbeth mae Donald Trump wedi’i feirniadu, a’r gred yw y bydd y Democratiaid yn elwa o bleidleisiau drwy’r post.

“BUDDUGOLIAETH fawr!” meddai Donald Trump mewn neges ar Twitter sydd bellach wedi cael ei nodi gan y wefan fel un y mae angen ei gwirio’n ofalus.

“Rydyn ni ar y blaen YN FAWR, ond maen nhw’n ceisio DWYN yr Etholiad.

“Wnawn ni fyth gadael iddyn nhw ei wneud e.

“All pleidleisiau ddim cael eu bwrw ar ôl i’r polau [Poles, sic] gau.”

Y ras

Mae angen i’r enillydd gyrraedd 270 yn y bleidlais yn y colegau etholiadol er mwyn ennill ac roedd Fflorida yn cael ei hystyried yn allweddol, gan nad yw’r un arlywydd ers 1924 wedi ennill y ras heb fod wedi cipio’r dalaith honno.

Mae Ohio hefyd yn fuddugoliaeth bwysig i Donald Trump, gydag enillydd y dalaith honno wedi dod yn arlywydd bob tro ers 1964.

Daliodd ei afael ar dalaith Tecsas, Ohio ac Iowa, tra bod Joe Biden wedi ennill ym Minnesota a New Hampshire, ac mae’r Democrat yn hyderus o ennill yn Arizona, Wisconsin a Michigan, ac o ras agos iawn yn Georgia.

Gallai’r cyfri ym Michigan a Pennsylvania, dwy dalaith allweddol, gymryd rhai diwrnodau.