Mae’r heddlu’n chwilio am gasglwr cocos 43 oed sydd ar goll o ardal Llanelli.

Roedd Darren Rees wedi bod yn casglu cocos ym Machynys pan oedd y llanw yn isel, a chafodd yr heddlu wybod am ei ddiflaniad am 6.42 neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 3).

Does neb wedi ei weld e ers iddi dywyllu.

Roedd e’n gwisgo esgidiau dŵr lliw gwyrdd a siwmper las.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.