Mae brwydro trwm wedi dechrau yng nghanolbarth Syria wrth i luoedd y llywodraeth, sydd wedi’u cefnogi gan gyrchoedd awyr Rwsia, ddwysau ymgyrchoedd yn erbyn gwrthryfelwyr.
Fe ddywedodd yr Asiantaeth Arsylwi Hawliau Dynol fod yr ymosodiad gan Lywodraeth yr Arlywydd Assad wedi dechrau yn nhalaith Idlib a Hama.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Asiantaeth, Rami Abdurrahman mai dyma’r ymladd mwyaf dwys ers misoedd.
Dywedodd ymgyrchydd Ahmad al-Ahmad, sydd yn Idlib, fod lluoedd y llywodraeth yn bomio ardaloedd yn y canolbarth ar ôl i wrthryfelwyr ymosod ar safle’r fyddin gan ddinistrio tanc.
Mae’r brwydro wedi dwysáu union wythnos ar ôl i’r Rwsia ddechrau cynnal cyrchoedd awyr yn Syria.
Mae Moscow yn dadlau ei bod yn targedu grwpiau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac Al Qaida ond mae ’na feirniadaeth mai dim ond canran fechan o’r cyrchoedd sy’n targedu safleoedd IS.