Mae ysgolion ledled Malaysia ar gau heddiw a fory, er mwyn gwarchod plant rhag tawch gwenwynig, trwchus, sy’n llenwi’r awyr o ganlyniad i fforestydd ar dân yn Indonesia, y wlad drws nesa’.

Mae’r tawch, sydd wedi bod yn hofran uwch Malaysia a Singapôr am tua mis bellach, wedi lledu i Wlad Thai hefyd.

Mae’r awdurdodau ym Malaysia wedi gorchymyn fod 7,000 o ysgolion yn aros ar gau heddiw a fory. Ddoe, roedd nifer o feysydd awyr wedi cau am rai oriau, ac fe gafodd ras farathon flynyddol ei chanslo yn Kuala Lumpur oherwydd nad oedd posib gweld trwy’r cymylau mwg.

Mae’r llygredd yn dangos faint o fforestydd yn Indonesia sy’n cael eu llosgi gan gwmnïau mawrion er mwyn gwneud lle i blannu coed newydd.