Protest yn erbyn carcharu Mohamed Fahmy
Mae adroddiadau bod Arlywydd yr Aifft, Abdel Fattah el-Sissi wedi cynnig pardwn i nifer o garcharorion, gan gynnwys un o newyddiadurwyr Al-Jazeera, Mohamed Fahmy o Ganada.

Mae asiantaeth newyddion yr Aifft, MENA wedi dweud bod y newyddiadurwr yn un o nifer o garcharorion, gan gynnwys ymgyrchwyr hawliau dynol blaenllaw, sydd wedi derbyn pardwn.

Mae disgwyl i’r carcharorion gael eu rhyddhau yn dilyn y cyhoeddiad hwn.

Cadarnhaodd cyfreithiwr Mohamed Fahmy, Khaled Abu Bakr y cyhoeddiad a dywedodd fod ei gleient yn “newyddiadurwr proffesiynol a di-euog”.

Cafodd Mohamed Fahmy a’i gydweithiwr, Baher Mohammed ddedfryd o dair blynedd yn y carchar fis diwethaf am ddarparu “newyddion ffals” a sylw unochrog.

Mae’r ymgyrchwyr blaenllaw, Yara Sallam a Sanaa Seif hefyd ymhlith y rhai sydd wedi cael eu rhyddhau.