“Camgymeriad anferth” fyddai cefnogi cynlluniau’r Ceidwadwyr i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol, yn ôl Nicola Sturgeon.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban ei bod “y tu hwnt i amgyffred” y byddai Holyrood yn rhoi eu sêl bendith i gynlluniau’r Llywodraeth yn San Steffan.

Ychwanegodd na fyddai’n ystyried cytundeb a fyddai’n gwarchod hawliau Albanwyr tra’n gwanháu hawliau trigolion yng ngweddill gwledydd Prydain.

Bwriad y Ceidwadwyr yw dileu’r ddeddf bresennol, gan gyflwyno Bil Hawliau Prydeinig yn ei lle.

Mae Nicola Sturgeon yn mynnu y bydd hi’n galw ar aelodau Holyrood i wrthod rhoi caniatâd i San Steffan fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i ddileu’r ddeddf yn yr Alban.

Mewn anerchiad i sefydliadau sifil yn Glasgow, dywedodd Nicola Sturgeon: “Mae hawliau dynol ei hun yn fater sydd wedi’i ddatganoli.

“Mae hynny’n golygu, yn ein barn ni, ei bod yn debygol fod angen caniatâd Senedd yr Alban ar unrhyw ymgais i addasu’r Ddeddf Hawliau Dynol.

“Mae tu hwnt i amgyffred, yn fy marn i, o ystyried y gefnogaeth sydd i’r Ddeddf ar draws Senedd yr Albam y byddai’r fath ganiatâd yn cael ei roi.”

Wrth ymateb i honiadau bod Llywodraeth Prydain yn barod i wthio’r Alban o’r neilltu yn ystod trafodaethau ar y ddeddfwriaeth newydd, ychwanegodd Nicola Sturgeon: “Gadewch i fi fod yn glir am hyn.

“Ni fyddai gennym unrhyw ddiddordeb… mewn cytundeb yn San Steffan sy’n gwarchod hawliau yma yn yr Alban ond sy’n eu teneuo yn rhan eraill y wlad neu’n…. gwarchod hawliau dynol ar faterion sydd wedi’u datganoli ond ddim ar faterion sydd heb [eu datganoli].”

“Nid hawliau Seisnig, Cymreig, Albanaidd na Gwyddelig mo hawliau dynol. Hawliau byd-eang ydyn nhw.”

Ychwanegodd ei bod hi’n barod i gydweithio â’r Ceidwadwyr er mwyn sicrhau nad yw’r ddeddf yn cael ei dileu.

‘Traddodiad balch’

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: “Mae gan y DU draddodiad balch o barchu hawliau dynol sy’n mynd y tu hwnt i’r Ddeddf Hawliau Dynol.

“Cafodd y Llywodraeth hon ei hethol gyda mandad i ddiwygio a moderneiddio’r fframwaith hawliau dynol yn y DU ac fe fydd Bil Hawliau Prydeinig yn gwarchod hawliau dynol sylfaenol ond hefyd yn eu hatal rhag cael eu camddefnyddio, gan adfer peth synnwyr cyffredin i’r system.”

Mae disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn yr hydref yn dilyn ymgynghoriad gyda holl wledydd y DU.