Mae Llys Cyfiawnder Ewrop wedi penderfynu y bydd modd atal ysbiwyr o’r Unol Daleithiau rhag cael mynediad ar-lein i wybodaeth am drigolion Ewrop.

Daw’r penderfyniad ar ôl i ymgyrchydd o Awstria, Max Schrems herio Facebook ar ôl i wybodaeth amdano gael ei throsglwyddo i asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau.

Mae cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn rhoi mynediad i swyddogion cudd-wybodaeth i gronfeydd data, ac mae’n galluogi’r Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol (NSA) i ddefnyddio’r system a gafodd ei datgelu gan Edward Snowden.

Dywed Max Schrems y gallai dyfarniad y llys gael effaith sylweddol ar lif data rhwng Ewrop a’r Unol Daleithiau, a chwmnïau rhyngrwyd Americanaidd sy’n gweithredu yn Ewrop.

Dywed Llys Cyfiawnder Ewrop fod rhoi mynediad i gudd-wybodaeth fel hyn yn mynd yn groes i’r hawl i breifatrwydd ac i warchod data personol a phreifat.

Er bod yr achos gwreiddiol yn ymwneud â Facebook, fe all fod goblygiadau i gwmnïau fel Apple, Google, Yahoo a Microsoft.

Dywed DigitalEurope, sy’n lobïo ar ran cwmnïau technoleg ym Mrwsel, fod dyfarniad y llys yn codi amheuon y byddai cwsmeriaid yn Ewrop yn colli’r cyfle i ddefnyddio gwasanaethau newydd pe bai angen trosglwyddo data i’r Unol Daleithiau neu i rannau eraill o’r byd.