Boris Johnson
Fe gafodd Maer Llundain Boris Johnson £93m i wario ar blismona yn y brifddinas ar yr amod nad oedd yn creu trafferth yn ystod cynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr yn 2011.

Dyna sydd yn cael ei honni gan yr Arglwydd Ashcroft yn y rhan ddiweddaraf o’i fywgraffiad am y Prif Weinidog David Cameron gafodd ei chyhoeddi yn y Daily Mail heddiw.

Yn ôl awdur y llyfr, Call Me Dave, roedd Cameron a’r Canghellor George Osborne mor bryderus ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Boris Johnson greu trafferthion iddyn nhw, eu bod nhw wedi cytuno i’w ofynion.

Mae’r honiadau diweddaraf hefyd yn cynnwys ffynhonnell sydd yn dweud bod David Cameron wedi cyfaddef ei fod wedi’i eni â “dwy lwy arian yn ei geg”, cyfeiriad at ei fagwraeth grand a moethus.

Galwad i Boris

Yn ôl yr honiad diweddaraf, fe gafodd Boris Johnson alwad gan George Osborne ddyddiau cyn cynhadledd y Ceidwadwyr yn 2011 yn gofyn iddo beidio â chreu trafferth.

Nôl yn 2009 roedd Maer Llundain wedi codi gwrychyn ei blaid ar ôl cyhoeddi colofn yn y Daily Telegraph yn galw ar refferendwm ar Gytundeb Lisbon yr UE, gan danseilio araith Osborne y diwrnod hwnnw.

Wrth ymateb i gais Osborne, mae’n debyg i Boris Johnson ddweud ei fod yn edrych ar “dalen o bapur gwag” ar gyfer ei golofn ddiweddaraf, gan ychwanegu “beth fydd pris dim drygioni?”.

Yn ôl y llyfr, ar ôl i’r Canghellor ofyn iddo beth roedd e eisiau fe atebodd Boris Johnson ei fod eisiau £93m ar gyfer plismona ychwanegol i Lundain, yn dilyn y terfysgoedd ychydig wythnosau yn gynt, ac fe gytunodd George Osborne i’r cais.

Mae’n debyg fod David Cameron wedi awgrymu nôl yn 2008 nad oedd eisiau gweld Boris Johnson yn cael ei ddewis fel yr ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer Maer Llundain, a’i fod hyd yn oed wedi gofyn i bennaeth presennol Cymdeithas Bêl-droed Lloegr Greg Dyke os oedd e eisiau sefyll.

Rhagor o honiadau

Hon yw’r diweddaraf mewn cyfres o honiadau sydd wedi cael eu gwneud yn y bywgraffiad answyddogol o David Cameron gafodd ei ysgrifennu gan yr Arglwydd Ashcroft ac Isabel Oakeshott.

Dydd Llun roedd cafodd honiadau eu cyhoeddi yn y Daily Mail yn dweud fod y Prif Weinidog wedi cymryd cyffuriau, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithred anweddus â mochyn mewn seremoni urddo, yn ystod ei ddyddiau coleg.

Dywedodd y llyfr hefyd fod uwch gadfridogion milwrol Prydain yn gandryll â Cameron am y ffordd y gwnaeth e ddelio ag ymyrraeth filwrol yn Syria a Libya fel Prif Weinidog.

Fe gyhoeddwyd hefyd y llun cyntaf yn dangos y gwleidydd Ceidwadol yn cymryd rhan mewn helfa llwynogod.