Mae gwrthdaro yn yr Unol Daleithiau tros benderfyniad yr Arlywydd Donald Trump i anfon swyddogion cyfraith a threfn cenedlaethol i ddinasoedd Democrataidd Chicago ac Albuquerque i ymladd troseddau trais.

Mae rhai’n gweld y cam yn ymyrraeth yn hawliau gwasanaethau cyfraith lleol ac yn rhan o’r ymgyrch i bardduo’r Democratiaid cyn yr etholiad ddiwedd y flwyddyn.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad yn y Tŷ Gwyn, fe honnodd Donald Trump fod yna symudiad radical i wanhau adrannau heddlu a bod hynny wedi arwain at “ffrwydrad dychrynllyd” o saethu a lladd a throseddau trais.

Er bod troseddu yn 2020 yn is nag mewn blynyddoedd eraill, mae codi cyfyngiadau coronafeirws mewn dinasoedd fel Chicago wedi arwain at gynnydd mewn troseddu.

Achos llys i ffrwyno’r Ffed

Roedd yr Arlywydd Gweriniaethol eisoes wedi anfon cannoedd o swyddogion ffederal i Kansas City ym Missouri wedi i fachgen pedair oed gael ei saethu.

Ond mae trais wedi cynyddu yn Portland, Oregon, wedi i swyddogion ffederal gael eu hanfon i warchod eiddo’r llywodraeth – fel cerfluniau’n ymwneud â chefnogwyr caethwasiaeth yn nhaleithiau’r de.

Fe gafodd y swyddogion cenedlaethol eu cyhuddo o gipio pobl oddi ar y strydoedd mewn ceir di-farciau ac mae’r dalaith wedi dod ag achos llys i geisio eu ffrwyno. Ym Mecsico Newydd hefyd mae Democratiaid wedi gwrthwynebu presenoldeb y swyddogion.

Ar y llaw arall, mae Maer Chicago wedi newid ei barn o gondemnio’r symudiad i’w groesawu, ar yr amod eu bod yno i gydweithio gyda’r awdurdodau lleol.

Y gred yw fod trefnwyr ymgyrch etholiad Donald Trump yn ceisio codi ei gefnogaeth ymhlith pobol hŷn sy’n poeni am gyfraith a threfn.