Mae grŵp o Aelodau Seneddol yn dweud bod mwy na miliwn o bobl wedi cael eu hatal rhag hawlio arian o gronfa Llywodraeth Prydain yn sgil pandemig y coronafeirws.

Daw sylwadau cadeirydd Pwyllgor y Trysorlys, Mel Stride, wrth i’r Canghellor Rishi Sunak amddiffyn cyfyngiadau’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Wythnos ddiwethaf roedd y pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad dros dro i’r cyfyngiadau mewn cymorth gan y Llywodraeth i gefnogi busnesau a gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan y firws.

Roedd yn pwysleisio bod mwy na miliwn o bobl heb gael cymorth gan y Llywodraeth ac mae wedi galw am wneud “unrhyw beth posib” i ddiogelu pobl a busnesau.

“Polisïau cywir”

Ond mae’r Canghellor wedi amddiffyn y system gyfredol i roi benthyciadau i fusnesau a chynlluniau cadw swyddi ar ôl darllen adroddiad y pwyllgor.

Mewn llythyr, roedd Rishi Sunak wedi cyfaddef wrth Aelodau Seneddol y pwyllgor ei bod yn “gywir nad oedd rhai pobl yn gymwys” ar gyfer ffyrlo neu’r cynllun cymorth i bobl sy’n hunangyflogedig, tra bod dim cynllun penodol mewn lle ar gyfer eraill sy’n gweithio’n llawrydd.

Dywedodd mai dyma oedd “y polisïau cywir ar gyfer rhan gynta’r argyfwng.”

Ond gwrthod hynny mae Mel Stride gan ddweud y gallai llawer mwy o bobl fod wedi cael eu helpu yn y cyfnod yma ac mae wedi galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried ei pholisïau.