Mae gyrrwr lori o Iwerddon wedi cael ei estraddodi i’r Deyrnas Unedig i wynebu cyhuddiadau’n ymwneud a marwolaeth 39 o ymfudwyr o Fietnam y cafwyd hyd iddyn nhw yng nghefn lori yn Essex.
Honnir bod Eamonn Harrison, 23, o Mayobridge, Swydd Down yng Ngogledd Iwerddon, wedi gyrru’r lori i borthladd Zeebrugge yng Ngwlad Belg cyn iddi hwylio i Purfleet yn Lloegr.
Mae Eamonn Harrison yn wynebu 39 cyhuddiad o ddynladdiad ac un cyhuddiad o gynllwynio i gynorthwyo ymfudo anghyfreithlon.
Mae Heddlu Essex wedi cadarnhau ei fod yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd cyrff y dinasyddion o Fietnam eu darganfod ar stad ddiwydiannol yn Grays ychydig cyn i’r trelar gyrraedd Purfleet ar long fferi yn oriau man Hydref 23 y llynedd.
Ymhlith y dynion, menywod a phlant roedd 10 o blant yn eu harddegau.
Clywodd cwest i’w mawolaeth eu bod nhw wedi marw o ganlyniad i ddiffyg ocsigen a gorboethi mewn lle cyfyng.
Roedd gyrrwr y lori, Maurice Robinson, 25, o Ogledd Iwerddon, a oedd wedi cludo’r trelar o’r porthladd yn Essex, wedi cyfaddef 39 achos o ddynladdiad yn yr Old Bailey ym mis Ebrill ar ôl pledio’n euog i gynllwynio i gynorthwyo ymfudo anghyfreithlon.