Bydd treialon o frechlyn TB mewn gwartheg yn hwb anferth i’r cynlluniau tymor hir i ddileu’r clefyd, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths heddiw (Dydd Iau, Gorffennaf 23).
Caiff y treialon eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, gyda’r gobaith o ddechrau defnyddio brechlyn gwartheg erbyn 2025.
Bu’n rhaid difa mwy na 12,000 o wartheg yng Nghymru oherwydd TB yn 2019.
Caiff y treialon maes eu cynnal dros y pedair blynedd nesaf ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Defra, yn dilyn 20 mlynedd o ymchwil arloesol i frechlynnau TB a phrofion diagnostig gan wyddonwyr y llywodraeth.
Bydd yr Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd Sêr Cymru bellach yn y Ganolfan Ragoriaeth TB ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i chwarae rôl allweddol yn y gwaith.
“Mae cael gwared a’r diciau yn flaenoriaeth i Gymru. Rydym wedi bod wrthi’n datblygu’n rhaglen ers mwy na 10 mlynedd ac mae brechlyn wastad wedi cael ei weld fel erfyn pwysig nad ydym wedi gallu manteisio arno eto.
“Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld 44% o ostyngiad yn nifer yr achosion o TB ac rydym yn gweithio at gael ei wared yn llwyr erbyn 2041. Gallai brechlyn ein helpu yn hynny o beth.”
“Datblygiad positif” meddai NFU Cymru
Mae Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Aled Jones wedi dweud bod y treialon yn “ddatblygiad positif.”
“Mae NFU Cymru’n ystyried hyn fel datblygiad positif wrth i ni geisio mynd i’r afael â’r afiechyd hwn yn y dyfodol.
“Gallai brechlyn fforddiadwy fod yn bwysig iawn wrth i ni ddelio a TB, ond byddwn yn pwysleisio na fydd unrhyw frechlyn ar gael am o leiaf pum mlynedd.
“Yn y cyfamser, rydym eisiau mesurau effeithiol mewn grym i sicrhau bod nifer yr achosion o TB yn parhau i ddisgyn.”