Ffoaduriaid oddi ar arfordir yr Eidal
Mae gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd sy’n cwrdd ym Mrwsel wedi cymeradwyo cynllun i ail-leoli 120,000 o ffoaduriaid ar draws Ewrop.

Roedd rhai gwledydd yn erbyn y cynllun, yn ôl adroddiadau gan Lwcsembwrg.

Roedd “mwyafrif sylweddol” y 28 o wledydd sy’n aelodau o’r UE o blaid y cynllun.

Mae rhai gwledydd yn Nwyrain Ewrop wedi gwrthod derbyn cwota gorfodol o ffoaduriaid.

Roedd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR)  wedi rhybuddio bod yn rhaid i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddod i gytundeb yr wythnos hon am sut y byddan nhw’n ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid.

Ond fe rybuddiodd na fydd cynllun ail-leoli “yn ddigon i sefydlogi’r sefyllfa.”