Richard Bracken
Fe allai llofrudd sydd wedi diflannu o uned seiciatryddol yn Llanfairfechan beri risg i’w hun ac eraill, meddai’r heddlu.
Fe fethodd Richard Bracken, 48, a dychwelyd i Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan, Conwy ar ôl gadael tua 11.35yb ddydd Llun.
Dywed Heddlu’r Gogledd y gallai ei ymddygiad newid os nad yw’n cymryd ei feddyginiaeth.
Roedd yr heddlu wedi gwneud apêl am wybodaeth nos Lun ond heb son bod Bracken wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth a’i fod yn peri risg i eraill.
Cafodd Bracken, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Richard Dennick, ei garcharu am oes am lofruddio’r Canon Alun Jones, 64, yn Llanberis yn 1982. Roedd yn 15 oed ar y pryd.
Mae’n debyg ei fod wedi dianc o garchar Lewes yn Sussex yn 1989 ac wedi bod a’i draed yn rhydd am chwe mis.
‘Ehangu’r chwilio’
Heddiw, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Pierce, sy’n arwain yr ymchwiliad, eu bod nhw wedi ehangu’r chwilio am Bracken, sydd â chysylltiadau teuluol yn Essex.
Methiant fu’r ymdrech hyd yn hyn i ddod o hyd iddo yn ardal Llanfairfechan meddai, ac mae’n bosib ei fod wedi gadael yr ardal.
“Heb ei feddyginiaeth a chymorth gofalwyr iechyd, credir bod Richard Bracken yn peri risg posib i’w hun ac eraill. Ein bwriad yw hysbysu pobl am y sefyllfa ond nid ydym am godi ofn arnyn nhw.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n ei weld i beidio mynd ato ac i ffonio’r heddlu ar unwaith ar 0800 096 1011.”
Mae Bracken yn chwe throedfedd o daldra, gyda gwallt brown a barf byr. Pan gafodd ei weld y tro diwethaf roedd yn gwisgo crys glas, siwmper lwyd, jîns glas, cot werdd, a trainers gwyn.
‘Pryderus iawn’
Dywedodd Angela Hopkins o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn bryderus iawn am ddiogelwch personol y claf Richard Bracken.
“Fe fethodd a dychwelyd i Dŷ Llewelyn, Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan ar ôl iddo gael caniatâd i adael am awr amser cinio ddoe.”
Ychwanegodd bod unrhyw benderfyniad i ganiatáu i gleifion adael yr uned am gyfnod, yn dilyn asesiad risg llawn gan staff meddygol a chaniatâd swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru sy’n parhau i chwilio amdano,” meddai.