Mae trigolion Gwlad Pwyl wrthi’n pleidleisio yn etholiadau arlywyddol y wlad, wrth i ddeg ymgeisydd herio’r Arlywydd Andrzej Duda.

Roedd disgwyl i’r etholiad gael i gynnal fis diwethaf, ond fe gafodd ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Mae’r arlywydd presennol wedi bod mewn grym ers pum mlynedd.

Mae ymgyrch yr arlywydd wedi canolbwyntio ar amddiffyn gwerthoedd pabyddol traddodiadol a chodi safonau byw fel eu bod nhw’n debyg i rai gwledydd eraill y Gorllewin.

Mae e’n gwrthwynebu priodasau o’r un rhyw a mabwysiadu plant, gan ddweud bod y mudiad LHDT yn un “ideoleg” beryglus.

Ymgeiswyr eraill

Prif wrthwynebydd yr arlywydd yw Rafal Trzaskowski, Maer Warsaw.

Mae wedi addo cynnal gwariant ar gyfraith a chyfiawnder, a chynnal y cyfansoddiad.

Fe gyflwynodd ei enw’n hwyr ar ôl i’r etholiad gwreiddiol gael ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

Mae’r ymgeiswyr eraill yn cynnwys y seren deledu Szymon Holownia, sy’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol; Robert Biedron, yr ymgeisydd hoyw cyntaf yn y wlad; Wladyslaw Kosiniak-Kamysz; a Krzysztof Bosak, ymgeisydd asgell dde eithafol.

Yn ôl y polau diweddaraf, does dim disgwyl i’r un o’r ymgeiswyr ennill 50% o’r bleidlais, ac felly fe fyddai’r ddau ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau’n herio’i gilydd mewn rownd arall ar Orffennaf 12.

Mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ddydd Mercher (Gorffennaf 1).

Pleidleisio yn ystod yr ymlediad

Er gwaetha’r coronafeirws, mae pobol wedi bod yn mynd i orsafoedd pleidleisio i fwrw eu pleidlais.

Mae gofyn iddyn nhw orchuddio’u hwynebau a chadw at reolau eraill, tra bod eraill yn manteisio ar bleidlais drwy’r post, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o achosion.

Mae oddeutu 34,000 o brofion positif wedi’u cynnal yn y wlad erbyn hyn, gyda rhyw 1,400 o bobol wedi marw.