Mae awyren a oedd ar ei ffordd i Lundain wedi’i gorfodi i aros ym Maes Awyr Kennedy yn Efrog Newydd, wedi i un o’i hadenydd daro ffens wrth geisio codi i’r awyr.

Mae’r awdurdodau’n dweud i’r awyren Virgin Atlantic ar ehediad 26, orfod cael ei thynnu oddi wrth y ffens gan beiriannau arbenigol tua 8.30yb heddiw, amser Efrog Newydd.

Chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad, meddai Awdurdod Porthladdoedd Efrog Newydd a New Jersey, ac fe gafodd y 276 o bobol ar fwrdd yr awyren eu cludo ar fysiau yn ôl i brif adeilad y maes awyr.

Roedd disgwyl i ehediad 26 adael Maes Awyr Kennedy am Lundain am 8.15yb heddiw.