Mae carcharor oedd wedi dianc o ysbyty yn Lerpwl, wedi ildio’i hun i’r heddlu.
Roedd Thomas Quinn, 30, yng Ngharchar Lerpwl cyn ei fod yn sefyll ei brawf wedi’i gyhuddo o ladrata, pan benderfynodd ddianc o Ysbyty Prifysgol Aintree lle’r oedd yn derbyn triniaeth i anaf i’w law.
Mae Heddlu Greater Manchester wedi cadarnhau fod y carcharor wedi cerdded i mewn i swyddfa’r heddlu fore heddiw.
Roedd wedi dianc yn ystod oriau mân dydd Iau.