Mae dyn 86 oed o Awstralia sydd wedi bod gerbron llys bedair gwaith wedi’i gyhuddo o lofruddio Albanes, wedi cael ei garcharu.

Cafwyd Ronald Leslie Pennington yn euog ym mis Gorffennaf o lofruddio Cariad Anderson-Slater yn 1992.

Cafodd hi ei gweld ddiwethaf yn mynd i mewn i gartref Pennington yn Perth, a daeth gweithwyr o hyd i’w gweddillion yn yr ardd yn 2011.

Dydy hi ddim yn hysbys sut y bu’r ddynes farw.

Cafwyd Pennington yn euog o ddynladdiad yn 2012, ond fe apeliodd yn erbyn y ddedfryd ac fe wynebodd ail achos.

Doedd dim modd dod i ddyfarniad yn yr ail na’r trydydd achos.

Ddydd Mercher, cafodd ei ddedfrydu gan lys yng Ngorllewin Awstralia i chwe blynedd a hanner dan glo.