Roedd sylw arbennig i gwestiwn anthemau cenedlaethol yn ystod sesiwn cwestiynau am Gymru yn San Steffan y bore ma.
Mae arweinydd newydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi’i feirniadu’r wythnos hon am beidio canu ‘God Save The Queen’ yn ystod seremoni yn Eglwys Gadeiriol St Paul i nodi 75 o flynyddoedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Yn ystod y sesiwn y bore ma, achubodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Alun Cairns ar y cyfle i grybwyll Cwpan Rygbi’r Byd fel cyfle da i ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a ‘God Save The Queen’.
Gofynnodd yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Harrow, Bob Blackman a fyddai Cwpan Rygbi’r Byd yn gyfle i Gymru ei rhoi ei hun ar y map o ran busnes a thwristiaeth.
Wrth ateb, dywedodd Alun Cairns: “Mae digwyddiadau rhyngwladol yn chwarae rhan bwysig wrth ddenu ymwelwyr tra hefyd yn hyrwyddo Cymru a’r DU i’r byd.
“Nid yn unig y mae Cwpan Rygbi’r Byd yn golygu y bydd Cymru’n codi tlws Webb Ellis, ond y mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i ni ganu anthem genedlaethol Cymru ac anthem genedlaethol y DU ochr yn ochr.”
Wrth feirniadu Jeremy Corbyn, mae nifer o aelodau seneddol Ceidwadol wedi ei gyhuddo o “amharchu’r Frenhines”.
Ymateb Corbyn a Llafur
Fe ddywedodd yntau yn dilyn yr helynt: “Roedd yn seremoni barchus ac fe sefais yn barchus drwyddi draw.
“Byddaf yn mynd i nifer o ddigwyddiadau ac fe fyddaf yn cymryd rhan yn llawn yn y digwyddiadau hynny. Dydw i ddim yn gweld problem gyda hyn.”
Wrth egluro’i safbwynt, awgrymodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur y byddai Corbyn yn canu ‘God Save The Queen’ yn y dyfodol.
Gellir darllen blog Huw Prys Jones yma.