Tony Abbott
Mae Tony Abbott wedi cael ei ddisodli fel prif weinidog Awstralia yn dilyn her oddi mewn i’w blaid ei hun.

Fe gollodd Abbott bleidlais ymysg aelodau’r Blaid Geidwadol i gyn-arweinydd y blaid, Malcolm Turnbull, oedd yn weinidog cyfathrebu o fewn y llywodraeth, o 54 pleidlais i 44.

Daw’r newid wrth i’r llywodraeth glymblaid Geidwadol  yn Awstralia, sydd wedi bod mewn grym ers dwy flynedd, wneud yn wael yn y polau piniwn.

Turnbull yw’r pedwerydd prif weinidog i Awstralia ei gael mewn ychydig dros ddwy flynedd yn dilyn Abbott, Kevin Rudd a Julia Gillard.

Mae’r datblygiadau diweddaraf hefyd yn debygol o arwain at newidiadau o fewn y cabinet, gyda rhai o brif gefnogwyr Tony Abbott yn debygol o adael.