Arnis Zalkalns
Mae crwner wedi dyfarnu bod y dyn sy’n cael ei amau o lofruddio’r ferch 14 oed, Alice Gross, wedi “lladd ei hun”.
Cafwyd hyd i gorff Arnis Zalkalns, 41 oed, yn crogi ym Mharc Boston Manor, gorllewin Llundain, fis Hydref diwethaf.
Daethpwyd o hyd i’w gorff ychydig ddyddiau wedi i gorff Alice Gross gael ei dynnu o’r dŵr yn y Grand Union Canal yn Ealing.
Mae Scotland Yard wedi cadarnhau y byddai Arnis Zalkalns wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Alice Gross, pe bai e wedi byw.
Roedd Arnis Zalkalns eisoes wedi treulio saith mlynedd yn y carchar yn ei wlad ei hun – Latfia – am lofruddio’i wraig.
“Does dim eglurhad rhesymol arall”, meddai’r crwner Chinyere Inyama yn ystod y cwest yn Llys y Crwner Gorllewin Llundain.
“Rwy’n dyfarnu fod Arnis Zalkalns wedi cymryd ei fywyd ei hun”, ychwanegodd.