Llys y Goron y Wyddgrug
Mae dyn o Gaernarfon, sydd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ei wraig wrth iddi fynd â’i phlant i’r ysgol, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron y Wyddgrug y bore ‘ma.
Mae Sylvan Parry, 46, o Ffordd Cibyn, Caernarfon, wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio Fiona Parry, sy’n 40 oed.
Cafwyd hyd iddi ar lôn yng Nghefn Cadnant, rhwng Ffordd Llanberis a Maesincla, gydag anafiadau difrifol i’w phen.
Roedd nifer o blant a oedd yn cerdded i’r ysgolion gerllaw, sef Ysgol Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, wedi gweld yr ymosodiad honedig a ddigwyddodd am tua 9yb, ddydd Iau 3 Medi.
Cafodd Fiona Parry ei chludo i Ysbyty Stoke-on-Trent ac mae’r fam i chwech o blant yn parhau i fod mewn coma.
Mae ei chyflwr yn parhau’n ddifrifol ond yn sefydlog.
Mae disgwyl i Sylvan Parry gyflwyno ple yn y gwrandawiad nesaf ar 11 Tachwedd.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.