Awyren BA ar y llain lanio ym maes awyr Las Vegas
Cafodd mwy na dwsin o bobl eu hanafu ar ôl i dân ddechrau ar awyren British Airways, oedd ar ei ffordd i Lundain, tra roedd ar y rhedfa ym maes awyr Las Vegas.

Fe ddechreuodd y tân yn injan yr awyren Boeing 777-200 ym maes awyr rhyngwladol McCarran gan orfodi 159 o deithwyr a 13 o griw i adael yr awyren ar frys.

Dywedodd y maes awyr bod yr holl deithwyr a chriw wedi llwyddo i ddod oddi ar yr awyren yn ddiogel.

Mae’n debyg bod y 12 a gafodd eu hanafu wedi cael mân anafiadau.

Dywedodd British Airways bod y tân wedi’i achosi gan “fater technegol” wrth i’r awyren baratoi i esgyn.