Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llwyddiant heddiw wrth sicrhau buddsoddiad gwerth £17m i ddatblygu ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn denu 90 cymrawd ymchwil o bob cwr o Ewrop i weithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a Phrifysgol De Cymru.
Bydd y prosiect yn ychwanegu at raglen bresennol Sêr Cymru, sydd eisoes yn llwyddo i ddenu gwyddonwyr profiadol i Brifysgolion Cymru.
“Enw da”
“Mae ymchwil o Gymru’n magu enw da”, meddai’r Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru.
“Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod y gwaith rhagorol yn mynd o nerth i nerth ac yn cyflawni mwy byth”, ychwanegodd.
Bydd y buddsoddiad newydd hwn (gwerth £17m) yn ychwanegu at y cynllun Sêr Cymru sydd gwerth £50m ynddo’i hun.
Nod Sêr Cymru yw denu talentau gwyddonol rhyngwladol i gadeiriau ymchwil Prifysgolion Cymru.
Mae’r cymrodoriaethau wedi’u hanelu at ymgeiswyr sydd â phrofiad ôl-ddoethuriaeth ac sy’n dymuno gweithio yng Nghymru.
Fe groesawodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, y buddsoddiad yn fawr hefyd gan ddweud mai ymchwil gwyddonol yw’r sail ar gyfer arloesi a datblygu technoleg.
“Mae’n gwbl hanfodol ar gyfer creu twf economaidd a swyddi o ansawdd”, ychwanegodd Edwina Hart.
Y buddsoddiad
Llwyddodd Llywodraeth Cymru i guro cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop wrth sicrhau’r buddsoddiad hwn.
“Mae’r ffaith inni ennill y dyfarniad cyllid COFUND hwn, er gwaethaf cystadleuaeth lem gan wledydd eraill Ewropeaidd, yn tystio’r ffydd sydd gan bobol yn ymchwil gwyddonol Cymru”, meddai Julie Williams.
O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £7m drwy gynllun COFUND, a bydd y Llywodraeth a Phrifysgolion Cymru’n darparu’r £10m o gyllid cyfatebol.