Mae miloedd o ffermwyr ar draws gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi heidio i Frwsel y bore yma mewn protest yn erbyn prisiau isel cig a llaeth.

Ymhlith y rheiny mae ffermwyr o Gymru, ynghyd â Llywydd NFU Cymru, Stephen James.

Mae’r prisiau isel yn broblem gyffredinol i genhedloedd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r ffermwyr yn protestio ym Mrwsel y bore yma ar gefn tractorau, ac yn arafu traffig boreol y ddinas.

Maen nhw’n protestio yn erbyn y trethi uchel sy’n eu hwynebu, a’r gostyngiad diweddar ym mhrisiau llaeth a chig oen.

Mae rhai ffermwyr yn teimlo fod y prisiau wedi gwaethygu ers i’r farchnad laeth ddechrau yn gynnar eleni. Am hynny, mae rhai o’r ffermwyr yn galw am ailgyflwyno’r cwotâu llaeth a ddiddymwyd fis Ebrill.

Mae Gweinidogion Amaeth yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod heddiw ym Mrwsel mewn cyfarfod brys i asesu’r argyfwng a chynllunio mesurau a fydd yn cefnogi ffermwyr.