Mae mwy na 1,000 o ffoaduriaid wedi croesi’r ffin o Hwngari i Awstria.

Teithiodd y ffoaduriaid ar fysus oedd wedi cael eu darparu gan lywodraeth Hwngari wedi iddyn nhw lwyddo i dorri’n rhydd o afael yr heddlu a gorymdeithio am oriau i gyfeiriad gorllewin Ewrop.

Cafodd y ffoaduriaid hwb pan gyhoeddodd Awstria, yn dilyn trafodaethau rhwng y Canghellor Werner Faymann a Changhellor yr Almaen Angela Merkel, y bydden nhw a’r Almaen yn croesawu ffoaduriaid am resymau dyngarol.

Teithiodd y ffoaduriaid o brif orsaf reilffordd Budapest ac o briffyrdd Hwngari ar draws y ffin i mewn i Awstria.

Wrth iddyn nhw gyrraedd Awstria, cawson nhw gymorth a bwyd gan weithwyr y Groes Goch.

Tra bod Awstria wedi cynnig lloches i’r ffoaduriaid, mae lle i gredu bod y rhan fwyaf yn ffafrio mynd i’r Almaen.

Ers bore dydd Mawrth, roedd awdurdodau Hwngari wedi bod yn gwrthod yr hawl i’r ffoaduriaid deithio ar drenau ac fe wrthodon nhw fynd i ganolfannau lloches gan ofni y bydden nhw’n cael eu halltudio neu eu cadw yn y ddalfa.