Mae cefnogwr pêl-fas wedi marw ar ôl cwympo o ran uchaf eisteddle yn ystod gêm rhwng yr Atlanta Braves a’r New York Yankees yn nhalaith Georgia.
Cwympodd y dyn, oedd yn ei chwedegau, i ran isa’r eisteddle yn Turner Field yn ystod seithfed batiad y gêm.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond fe fu farw cyn cyrraedd.
Dydy enw’r dyn ddim wedi cael ei gyhoeddi eto.
Ni chafodd y gêm ei gohirio tra bod y dyn yn derbyn cymorth meddygol.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad, a dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.
Dyma’r trydydd tro i gefnogwr farw yn Turner Field o fewn wyth mlynedd – un o ganlyniad i alcohol a’r llall yn hunanladdiad.
Dywedodd un o chwaraewyr y New York Yankees, Didi Gregorius: “Ro’n i’n meddwl am y peth drwy’r amser.
“Y cyfan alla i ddweud yw ’mod i’n cydymdeimlo gyda’r teulu. Roedd y cyfan o flaen y camera ym mlwch y wasg. Fe darodd e’r gwifrau.”
Dywedodd Major League Baseball, yr awdurdod pêl-fas, eu bod nhw’n monitro’r sefyllfa.
Mewn datganiad, dywedodd yr Atlanta Braves eu bod nhw’n cydymdeimlo â’r teulu.