Fe fydd Amgeuddfa Lofaol Cymru ‘Big Pit’ ynghau unwaith eto heddiw oherwydd streic gan aelodau undeb y PCS.

Dydy’r undeb ddim wedi gallu dod i gytundeb ag Amgueddfa Cymru ar delerau gwaith, ac mae’r prif amgueddfeydd wedi bod ynghau dros y penwythnos.

Mae disgwyl i’r ‘Big Pit’ fod ynghau ddydd Llun hefyd wrth i’r anghydfod barhau.

Roedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru ynghau ddoe.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan wedi bod ar agor, ond mae nifer o’r orielau ac adeiladau wedi bod ynghau.

Mae Amgueddfa Cymru eisoes wedi mynegi eu siom fod yr undeb wedi bwrw ymlaen gyda’r streic.

Dydy aelodau’r undeb ddim yn hapus gyda chynlluniau i leihau’r taliadau ychwanegol gaiff staff am weithio ar y penwythnos.

Mae Amgueddfa Cymru wedi rhybuddio ymwelwyr i edrych ar eu gwefan am ragor o fanylion cyn teithio i un o’r safleoedd dros y penwythnos.

Maen nhw’n mynnu eu bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod i gytundeb gyda’r undeb, gan gynnwys cynnig y Cyflog Byw i’w gweithwyr.