Angela Merkel
Fe fydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, yn ymweld â lloches i ffoaduriaid sydd wedi cael ei dargedu gan derfysgoedd neo-Natsïaidd.
Dywedodd ei llefarydd y bydd Angela Merkel yn teithio i Heidenau, i’r de o Dresden, yfory i gwrdd â ffoaduriaid ac i gefnogi gweithwyr a swyddogion lleol.
Cafodd dwsinau o swyddogion yr heddlu eu hanafu pan wnaeth grwpiau o’r asgell dde eithafol daflu poteli a thân gwyllt at heddweision a oedd yn ceisio sicrhau bod ffoaduriaid yn gallu symud i loches newydd ar ddydd Gwener a Sadwrn.
Dywedodd Angela Merkel bod y digwyddiad “gywilyddus”.
Mae’r Almaen wedi gweld twf yn nifer y ffoaduriad sy’n dod i’r wlad eleni gyda swyddogion yn amcangyfrif y gallai’r ffigwr gyrraedd 800,000 erbyn diwedd 2015.
Tra bo’r mwyafrif o Almaenwyr wedi bod yn groesawgar i’r ffoaduriaid, mae lleiafrif wedi lleisio eu gwrthwynebiad iddynt. Mae ymosodiadau ar wersylloedd ffoaduriad bron a dyblu i 202 yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, gan gynnwys wyth digwyddiad o losgi eiddo.
Mae’r heddlu yn y dalaith ddwyreiniol, Brandenburg, wedi dweud bod lle i gredu bod tân mewn campfa, a oedd wedi cael ei fwriadu i fod yn lloches dros dro i ffoaduriaid, wedi cael ei gynnau’n fwriadol.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y tân yn Nauen, sydd tua naw milltir i ffwrdd o Berlin, yn oriau mân y bore ma. Mae grwpiau asgell dde eithafol wedi bod yn protestio sawl gwaith yn erbyn y mewnlifiad o ffoaduriaid yn Nauen eleni.