Mae un o chwaraewyr tîm rygbi saith bob ochr Cymru wedi cael ei wahardd rhag chwarae am bedair blynedd ar ôl prawf cyffuriau positif.

Dywedodd World Rugby fod Carl Townsend, sydd yn 27 oed ac yn chwarae i Cross Keys, wedi cymryd y steroid anabolig Oxandrolone oedd yn gwella’i berfformiad.

Roedd Carl Townsend wedi dweud mai rhywbeth roedd e wedi’i fwyta oedd wedi arwain at gael y prawf positif, ond fe benderfynodd yn erbyn cael gwrandawiad personol.

Daeth y prawf positif i’r fei ar ôl iddo fod yn chwarae mewn cystadleuaeth saith bob ochr ym Moscow ym mis Mehefin eleni, ac mae e nawr wedi’i wahardd nes 28 Mehefin 2019.

‘Syndod a siom’

Dywedodd Carl Townsend ei fod wedi methu’r prawf cyffuriau ar ôl dechrau cymryd sylweddau gwahanol yn dilyn ei ymddeoliad o chwarae rygbi lled-broffesiynol.

“Yn dilyn penderfyniad i ymddeol o rygbi lled-broffesiynol yn Chwefror 2015, doedd gen i ddim bwriad dychwelyd i’r gamp,” meddai mewn datganiad i World Rugby.

“Yn ystod y cyfnod yna mi wnes i brynu cynnyrch protein dros y cownter ac atgyfnerthydd testosteron oedd ddim wedi cael eu cymeradwyo o safbwynt safonau.

“Cefais fy newis i gynrychioli tîm datblygu saith bob ochr Cymru ym Mai 2015, a phan gefais i wybod fe es i nôl i brynu ategolion oedd wedi’u cymeradwyo yn syth er mwyn ceisio sicrhau fy mod i’n cydymffurfio â rheolau cyffuriau 2015.

“Yn dilyn prawf wrin yn ystod cystadleuaeth Grand Prix Ewrop ym Moscow roedd hi’n syndod a siom mod i wedi profi’n bositif am Oxandrolone.

“Rydw i’n ymwybodol mai fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod ychwanegion wedi’u cymeradwyo yn unol â’r rheolau gwrth gyffuriau.”