Aaron Ramsey
Mae un o sêr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud fod angen i’r gamp ddilyn esiampl rygbi a bod yn fwy parod i gyflwyno technoleg fideo i ailedrych ar benderfyniadau dadleuol.
Ni chafodd gôl gan Aaron Ramsey mewn gêm rhwng Arsenal a Lerpwl neithiwr ei chaniatáu oherwydd bod y llumanwr wedi dweud ei fod yn camsefyll – er nad oedd yn edrych felly o ail-wylio ar y sgrin.
Gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr, a nawr mae chwaraewr canol cae’r Gunners wedi dweud bod angen i bêl-droed fod yn barod i groesawu technoleg fideo allai osgoi’r math yna o gamgymeriadau yn y dyfodol.
“Wrth gwrs,” meddai seren Cymru pan ofynnwyd iddo a oedd o blaid gweld technoleg yn cael ei ddefnyddio.
“Ar ddiwrnod arall fe ddylen ni fod wedi bod 1-0 ar y blaen. Fe allai edrych ar fideo am 20 eiliad fod wedi newid canlyniad y gêm.”
Dysgu o rygbi
Mae technoleg fideo bellach yn cael ei ddefnyddio mewn gemau rygbi er mwyn i ddyfarnwyr allu ailedrych ar gymalau o chwarae yn ogystal â gweld os yw ceisiau wedi cael eu sgorio.
Mae technoleg fel Hawk-Eye hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn campau fel tenis a chriced i allu gweld i ba gyfeiriad mae peli’n teithio a ble maen nhw’n glanio.
Ers 2012 mae FIFA wedi caniatáu i dechnoleg llinell y gôl gael ei ddefnyddio mewn pêl-droed i gadarnhau os yw’r bêl wedi croesi’r llinell ar gyfer gôl.
Ond hyd yn hyn dyw hi ddim wedi caniatáu i ddyfarnwyr ail-wylio tystiolaeth fideo er mwyn dyfarnu ar benderfyniadau a throseddau eraill yn y gêm.
“Dw i’n meddwl y gallwn ni ddilyn esiampl rygbi. Maen nhw’n ei wneud e’n dda,” meddai Ramsey, sydd yn debygol o gael ei enwi yng ngharfan Cymru fory ar gyfer eu gemau rhagbrofol ym mis Medi.
“Rydych chi’n ei weld ar y sgrin, mae e fyny yna am 20 eiliad ac wedyn maen nhw’n cael y penderfyniad yn iawn yn y diwedd. Fe allai pêl-droed ddysgu o hynny.”