Mae China wedi torri cyfraddau llog am y pumed tro mewn naw mis mewn ymdrech o’r newydd i roi hwb i’r economi.

Dywedodd y banc canolog y bydd y gyfradd llog ar gyfer benthyciad blwyddyn yn gostwng 0.25 pwynt i 4.6% a bydd y gyfradd flynyddol ar gyfer adneuon yn gostwng i 1.75%.

Mae’r banc canolog hefyd wedi cynyddu faint o arian sydd ar gael ar gyfer benthyca trwy leihau’r isafswm cronfeydd wrth gefn mae’n ofynnol i fanciau eu cadw.

Daeth y penderfyniad wrth i farchnadoedd ariannol ar draws Asia ostwng yn sylweddol ar ôl i brif fynegai China ostwng 8.5% wrth i fuddsoddwyr ruthro i werthu cyfrannau yn sgil ansicrwydd economaidd.

Daeth yr arwyddion cyntaf bod economi China yn arafu ddydd Gwener ddiwethaf, pan welwyd ton o gyfrannau yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yn cael eu gwerthu gan arwain  at gwymp o bron i 6% ar y farchnad stoc yn China.

Mae buddsoddwyr bychain yn China wedi dioddef colledion trwm, gan fygwth cynlluniau’r Blaid Gomiwnyddol i ddefnyddio’r farchnad i godi arian i ddiwygio  diwydiannau’r wladwriaeth.