Theresa May
Mae eithafiaeth yn fygythiad i’r ffordd Brydeinig o fyw ac mae’n rhaid mynd i’r afael ar broblem, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref heddiw.

Dywedodd Theresa May fod eithafwyr yn “ceisio rhannu cymunedau” a’i bod hi’n gyfrifoldeb ar gymunedau yn ogystal â’r Llywodraeth i’w herio.

Pwysleisiodd hefyd fod y strategaeth gwrth-eithafiaeth a gyhoeddwyd eisoes gan y Prif Weinidog yn ymdrin â phob math o eithafiaeth –  o eithafiaeth “Islamaidd” i eithafiaeth “neo-Natsïaidd”.

Roedd Theresa May yn siarad wrth iddi ymweld â Birmingham gan gyfarfod gweithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn mynd i’r afael ag eithafiaeth, hiliaeth a materion ehangach gan gynnwys trais yn y cartref.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad yn ardal Digbeth y ddinas, fe wnaeth Theresa May ganmol y “gwaith gwych” sy’n cael ei wneud i daclo eithafiaeth.

Dywedodd fod yr her o fynd i’r afael ag eithafiaeth yn rhywbeth yr oedd y Llywodraeth yn ei “wynebu”, ond ei bod hi’n ofynnol i’r cyhoedd helpu hefyd.